2011 Rhif 1945 (Cy. 212)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 19, 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997 ac adrannau 63 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Maent yn diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 1999. 

Mae rheoliad 3 yn gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu ysgolion yn gosod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol dau. Mae rheoliad 4 yn gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu’n gosod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol tri, a rheoliad 5 yn gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu’n gosod targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.

Mae rheoliad 6 yn gwneud yn ofynnol bod corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir sy'n darparu addysg uwchradd yn gosod targedau terfynol, targedau adolygedig a thargedau dros dro ynghylch absenoldeb anawdurdodedig disgyblion o'r ysgol, am flwyddyn ac am dwy flynedd ymlaen llaw. Bydd rhaid cyhoeddi gwybodaeth bob blwyddyn am y targedau hyn a chyfradd wirioneddol yr absenoldebau anawdurdodedig, ynghyd ag adroddiad blynyddol y corff llywodraethu.


2011 Rhif 1945 (Cy. 212)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

Gwnaed                           29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Awst 2011

Yn dod i rym                             1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997([1]) ac adrannau 63 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([2]) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt ([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Dirymir y rheoliadau a bennir yn Atodlen 1.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adroddiad blynyddol yr ysgol” (“school’s annual report”) yw'r adroddiad i rieni y mae'n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol ei baratoi a'i gyhoeddi ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn rhinwedd offeryn llywodraethu'r ysgol neu yn rhinwedd adran 30 o Ddeddf 2002([4]);

ystyr “arholiad TGAU” (“GCSE examination”) yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio llawn ar gyfer TGAU;

ystyr “asesiadau athrawon” (“teacher assessments”) yw'r asesiadau o ddisgyblion a gyflawnir gan athrawon at ddibenion dyfarnu'r lefel cyrhaeddiad y maent wedi ei chyflawni mewn Saesneg, Cymraeg, gwyddoniaeth neu fathemateg, ac y gwnaed darpariaeth asesu ar eu cyfer gan neu o dan orchmynion a wnaed o dan adran 108(3)(c ) o Ddeddf Addysg 2002([5]) ac sydd mewn grym pan gyflawnir yr asesiadau;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw  cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Medi;

mae i “canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion” (“pupils’ attainment results”) yr ystyr a bennir yn rheoliad 8(3);

ystyr “cyflawni'r dangosydd pynciau craidd” (“to achieve the core subject indicator”) mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed  yn ystod y flwyddyn ysgol y safant yr arholiadau perthnasol ynddi, yw bod y disgyblion hynny wedi cyflawni lefel 2 FfCC neu well gyda chywerthedd o 20% neu fwy  mewn cymhwysterau perthnasol a gymeradwywyd;

ystyr “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster o fewn yr ystyr a roddir i “relevant qualification” gan adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997([6]);

ystyr “darparydd dysgu seiliedig ar waith” (“work-based learning provider”) yw cyflogwr neu gorff sy'n darparu rhaglen neu raglenni addysg yn y gweithle i ddisgyblion neu fyfyrwyr fel rhan o gwrs y maent wedi ymrestru arno neu y byddant yn ymrestru arno mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “disgyblion cyfnod allweddol dau” (“second key stage pupils”) yw disgyblion sydd yng nghyfnod allweddol dau, y cyfeirir ato fel “the second key stage” yn adran 103(1)(b) o Ddeddf 2002;

ystyr “disgyblion cyfnod allweddol tri” (“third key stage pupils”) yw disgyblion sydd yng nghyfnod allweddol tri, y cyfeirir ato fel “the third key stage” yn adran 103(1)(c) o Ddeddf 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([7]);

ystyr “dyddiad cyfrifo Cyfrifiad Ysgolion” (“Schools’ Census enumeration date”) yw’r dyddiad y cyfeirir ato gan Weinidogion Cymru yn flynyddol, wrth iddynt wneud yn ofynnol bod gwybodaeth yn cael ei darparu mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf Addysg 1996([8]);

ystyr “FfCC” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a ffurfir gan gymwysterau o fewn yr ystyr a roddir i “relevant qualification” gan adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997, sy’n cael eu dyfarnu neu eu dilysu gan gorff a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â’r cymhwyster;

ystyr “y flwyddyn ysgol berthnasol” (“relevant school year”) mewn perthynas ag ysgol yw'r flwyddyn ysgol y cyhoeddir adroddiad blynyddol yr ysgol mewn perthynas â hi;

ystyr “y flwyddyn ysgol ddilynol” (“following school year”) yw’r flwyddyn ysgol sy'n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn ysgol o dan sylw;

 ystyr “y flwyddyn ysgol flaenorol” (“previous school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol o dan sylw;

 “y flwyddyn ysgol gyfredol” (“current school year”) yw'r flwyddyn ysgol y mae'r adolygiad yn digwydd ynddi;

ystyr “y flwyddyn ysgol nesaf ond un” (“school year next but one”) yw'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol o dan sylw;

ystyr “y flwyddyn ysgol o dan sylw” (“school year in question”) mewn perthynas â gosod unrhyw darged yw'r flwyddyn ysgol y gosodir y targed ynddi;

ystyr “lefel 4” (“level 4”) yw lefel 4 ar raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel a ddyfernir gan ganlyniadau asesiadau athrawon;

ystyr “lefel 5” (“level 5”) yw lefel 5 ar raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel a ddyfernir gan ganlyniadau asesiadau athrawon;

ystyr “lefel FfCC” (“NQF level”) yw'r lefel neu'r lefelau a osodir yn y FfCC mewn perthynas â chymhwyster perthnasol;

ystyr “y pynciau craidd” (“core subjects”) yw’r pynciau craidd o fewn ystyr adran 105(2) o Ddeddf 2002([9]);

ystyr “set ddata” (“data set”) yw’r crynodeb o berfformiad ysgol mewn asesiadau athrawon, cymwysterau cymeradwy a chyfraddau absenoldeb a grynhowyd ac a ddarparwyd ar gyfer yr ysgol gan Weinidogion Cymru;

ystyr “targedau perfformiad” (“performance targets”) yw'r targedau y mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu eu gosod yn rhinwedd rheoliadau 3, 4 a 5;

ystyr “TGAU” ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

ystyr “trothwy lefel 1” (“level 1 threshold”) yw’r cyflawniad gan ddisgybl o gymhwyster FfCC ar lefel 1 sy'n gyfwerth â 5 cymhwyster TGAU ar raddau D i G; ac

ystyr “trothwy lefel 2” (“level 2 threshold”) yw’r cyflawniad gan ddisgybl o gymhwyster FfCC ar lefel 2 sy'n gyfwerth â 5 cymhwyster TGAU ar raddau A* i C.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl yn ennill cymwysterau, neu at ddyfarnu cymwysterau iddo, ar lefel FfCC mewn cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd, erbyn diwedd unrhyw flwyddyn ysgol, i'w ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw'n ennill y cymhwyster hwnnw, neu at ddyfarnu iddo’r cymhwyster hwnnw yn y flwyddyn ysgol—

(a)     pan yw'n sefyll yr arholiad hwnnw, neu

(b)     (yn ôl fel y digwydd) pan yw'n cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,

pa un a wneir y penderfyniad i ddyfarnu’r cymhwyster iddo yn ystod  blwyddyn ysgol ddiweddarach ai peidio.

Targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol dau

3.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob ysgol lle y darperir addysg sy'n addas i ofynion disgyblion yng nghyfnod allweddol dau.

(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr ym mhob blwyddyn ysgol, osod a chyflwyno i'r awdurdod lleol y targedau a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer bob un o'r cyflawniadau a bennir ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â pherfformiad mewn asesiadau athrawon y disgyblion a fydd ym mlwyddyn derfynol cyfnod allweddol dau pan wneir yr asesiadau hynny.

(3) Y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     targedau terfynol mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol dau mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol gyfredol, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol;

(b)     targedau adolygedig mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol ddilynol  sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw'r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny; ac

(c)     targedau dros dro mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol nesaf ond un.

(4) Y cyflawniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni lefel 4 neu well ym mhob un o'r pynciau craidd unigol; a

(b)     y tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol.

(5) Ym mharagraff (3)(a) ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol dau”, mewn perthynas ag ysgol ac mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol yw'r holl bersonau y mae'r corff llywodraethu'n rhagweld a fydd, yn y flwyddyn ysgol ddilynol—

(a)     yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno; a

(b)     ym mlwyddyn derfynol cyfnod allweddol dau.

(6) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar unrhyw darged a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu o dan baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad  o’r ffaith honno i’r corff llywodraethu o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl cael y targedau gan y corff llywodraethu, a rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno targed diwygiedig o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o'r fath.

(7) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar darged diwygiedig a gyflwynwyd o dan baragraff (6) rhaid i’r awdurdod lleol osod y targed.

Targedau perfformiad ar gyfer disgyblion yng nghyfnod allweddol tri

4.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob ysgol lle y darperir addysg sy'n addas i ofynion disgyblion yng nghyfnod allweddol tri.

(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr ym mhob blwyddyn ysgol, osod a chyflwyno i'r awdurdod lleol y targedau a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer bob un o'r cyflawniadau a bennir ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â pherfformiad mewn asesiadau athrawon y disgyblion a fydd ym mlwyddyn derfynol cyfnod allweddol tri pan wneir yr asesiadau hynny.

(3) Y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     targedau terfynol mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol tri mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol gyfredol, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol;

(b)     targedau adolygedig mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol ddilynol, sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw'r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny;  ac

(c)     targedau dros dro mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol nesaf ond un.

(4) Y cyflawniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni lefel 5 neu well ym mhob un o'r pynciau craidd unigol; a

(b)     y tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol.

(5) Ym mharagraff (3)(a) ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol tri”, mewn perthynas ag ysgol ac mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol yw'r holl bersonau y mae'r corff llywodraethu'n rhagweld a fydd, yn y flwyddyn ysgol ddilynol—

(a)     yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno; a

(b)     ym mlwyddyn derfynol cyfnod allweddol tri.

(6) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar unrhyw darged a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu o dan baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad  o’r ffaith honno i’r corff llywodraethu o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl cael y targedau gan y corff llywodraethu, a rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno targed diwygiedig o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o'r fath.

(7) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar darged diwygiedig a gyflwynwyd o dan baragraff (6) rhaid i’r awdurdod lleol osod y targed.

Targedau perfformiad ar gyfer disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed

5.(1)(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob ysgol lle y darperir addysg sy'n addas i ofynion disgyblion sydd wedi cyrraedd 15 oed.

(2) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi, yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr ym mhob blwyddyn ysgol, osod a chyflwyno i'r awdurdod lleol y targedau a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer bob un o'r cyflawniadau a bennir ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â pherfformiad mewn arholiadau y disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol y byddant yn sefyll yr arholiadau hynny ynddi.

(3) Y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     targedau terfynol mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, mewn arholiadau sydd i’w rhoi ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol gyfredol, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol;

(b)     targedau adolygedig mewn asesiadau athrawon sydd i'w cyflawni ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol ddilynol  sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw'r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny; ac

(c)     targedau dros dro mewn arholiadau sydd i’w rhoi ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol nesaf ond un.

(4) Y cyflawniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)     y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni'r dangosydd pwnc craidd;

(b)     y tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol;

(c)     y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni’r trothwy lefel 1;

(ch) y ganran o’r disgyblion sy’n cyflawni’r trothwy lefel 2 gan gynnwys cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg; a

(d)     y ganran o’r disgyblion sy’n ymadael â'r ysgol heb gyflawni cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd.

(5) Ym mharagraff (4) nid yw cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ymadael â'r ysgol yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail lawnamser neu i ddarparydd dysgu seiliedig ar waith.

(6) Ym mharagraff (3)(a) ystyr  “y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed”, mewn perthynas ag ysgol ac mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol yw'r holl bersonau—

(a)     mae'r corff llywodraethu'n rhagweld y byddant yn ddisgyblion cofrestredig ar y dyddiad cyfrifo Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol ddilynol; a

(b)     a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ddilynol honno.

(7) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar unrhyw darged a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu o dan baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad  o’r ffaith honno i’r corff llywodraethu o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl cael y targedau gan y corff llywodraethu, a rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno targed diwygiedig o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o'r fath.

(8) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar darged diwygiedig a gyflwynwyd o dan baragraff (7) rhaid i’r awdurdod lleol osod y targed.

Targedau Absenoldeb

6.(1)(1) Erbyn 31 Rhagfyr fan bellaf ym mhob blwyddyn ysgol, rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir (heblaw ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty) osod a chyflwyno i'r awdurdod lleol y targedau a bennir ym mharagraff (2) ar gyfer y gostyngiad yn lefel cyfradd absenoldeb y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)     targed terfynol ar gyfer y  flwyddyn ysgol gyfredol, sef y targed adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol;

(b)     targed adolygedig ar gyfer y flwyddyn ysgol ddilynol, sef y targed dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw'r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny; ac

(c)     targed dros dro ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf ond un.

(3) Os nad yw corff llywodraethu wedi gosod targedau absenoldeb o’r blaen dan y rheoliadau hyn, addesir paragraff (2) fel a ganlyn mewn perthynas â'r tro cyntaf y mae'n ofynnol gosod targedau—

(a)     yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “terfynol” a'r geiriau sy’n dilyn “y flwyddyn ysgol gyfredol” hyd at ddiwedd yr is-baragraff; a

(b)     yn is-baragraff (b), hepgorer y gair “adolygedig” a'r geiriau sy’n dilyn “y flwyddyn ysgol ddilynol” hyd at ddiwedd yr is-baragraff.

(4) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar unrhyw darged a gyflwynwyd gan gorff llywodraethu o dan baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad  o’r ffaith honno i’r corff llywodraethu o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl cael y targedau gan y corff llywodraethu, a rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno targed diwygiedig o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o'r fath.

(5) Os nad yw awdurdod lleol yn fodlon ar darged diwygiedig a gyflwynwyd o dan baragraff (4) rhaid i’r awdurdod lleol osod y targed.

(6) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 8—

(a)     ystyr “absenoldeb” yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi ei gofnodi'n absennol o'r ysgol yn unol â Rheoliadau (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010([10]);

(b)     ystyr “disgybl dydd perthnasol” yw disgybl cofrestredig mewn oedran ysgol gorfodol ac eithrio disgybl preswyl;

(c)     ystyr “y gyfradd absenoldeb” yw cyfanswm nifer yr absenoldebau disgwyliedig yn y cyfnod cymwys yn ystod y flwyddyn ysgol, a fynegir fel canran o gyfanswm posibl y presenoldebau disgyblion yn y cyfnod hwnnw;

(ch) ystyr “y cyfnod cymwys” yw —

                           (i)    ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd, y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau blwyddyn ysgol ac sy'n dod i ben ar ddiwrnod olaf y tymor ysgol olaf yn y flwyddyn ysgol honno; a

                         (ii)    ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd, y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau blwyddyn ysgol ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ysgol sy'n digwydd ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym mis Mai yn y flwyddyn ysgol honno; a

(d)     ystyr “cyfanswm posibl y presenoldebau”  yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol â nifer y sesiynau ysgol sydd yn y cyfnod cymwys yn y flwyddyn ysgol.

Addasu targedau

7.(1)(1) Ni cheir addasu targed perfformiad ar ôl ei osod oni fydd yr awdurdod lleol wedi cydsynio â hynny ymlaen llaw

(2) Ni chaiff corff llywodraethu addasu targed absenoldeb terfynol a osodwyd y corff llywodraethu o dan reoliad 6 oni fydd yr awdurdod lleol wedi cydsynio â  hynny ymlaen llaw.

Cyhoeddi gwybodaeth

8.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol y mae  rheoliadau 3, 4, 5, neu 6 yn gymwys iddi gyhoeddi gwybodaeth am y canlynol ynghyd ag adroddiad blynyddol yr ysgol, ar gyfer pob blwyddyn ysgol—

(a)     y canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion,

(b)     y targedau perfformiad,

(c)     y gyfradd absenoldeb, ac

(ch) y targedau absenoldeb,

a bennir yn Atodlen 2.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw ysgol y mae rheoliadau 3, 4 neu 5 yn gymwys iddi, nid yw paragraff (1)  yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi unrhyw wybodaeth—

(a)     am y targedau perfformiad y cyfeirir atynt yn y rheoliadau hynny o ran—

                           (i)    y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol dau (fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(6)),

                         (ii)    y grŵp perthnasol o ddisgyblion cyfnod allweddol tri (fel y'i diffinnir yn rheoliad 4(5)), neu

                       (iii)    y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed (fel y'i diffinnir yn rheoliad 5(7)),

os oedd y grŵp hwnnw, ar yr adeg y cododd y ddyletswydd ar y corff llywodraethu i osod targedau o'r fath, yn cynnwys dim mwy na deg o bersonau; a

(b)     am ganlyniadau cyrhaeddiad disgyblion mewn unrhyw flwyddyn ysgol, mewn perthynas ag unrhyw grŵp o ddisgyblion—

                           (i)    sydd ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd blwyddyn derfynol cyfnod allweddol dau,

                         (ii)    sydd ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd blwyddyn derfynol cyfnod allweddol tri, neu

                       (iii)     sydd wedi cyrraedd 16 oed,

yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw os yw’r  grŵp yn cynnwys dim mwy na deg o bersonau

(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion” yw —

(a)     mewn perthynas â disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd blwyddyn derfynol cyfnod allweddol dau mewn unrhyw flwyddyn ysgol mewn ysgol y mae rheoliad 3 yn gymwys iddi, y ganran sydd wedi cyflawni—

                           (i)    lefel 4 neu well mewn asesiadau athrawon ym mhob un o'r pynciau craidd, a

                         (ii)    y tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol; a

(b)     mewn perthynas â disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd blwyddyn derfynol cyfnod allweddol tri mewn  unrhyw flwyddyn ysgol mewn ysgol y mae rheoliad 4 yn gymwys iddi, y ganran sydd wedi cyflawni—

                           (i)    lefel 5 neu well mewn asesiadau athrawon ym mhob un o'r pynciau craidd, a

                         (ii)    y tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol; ac

(c)     mewn perthynas â disgyblion a gyrhaeddodd 16 oed mewn unrhyw flwyddyn ysgol mewn ysgol y mae rheoliad 5 yn gymwys iddi, y ganran sy’n—

                           (i)    cyflawni'r dangosydd pwnc craidd;

                         (ii)    cyflawni'r tri chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd yn y set ddata ar gyfer yr ysgol honno mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol flaenorol;

                       (iii)    cyflawni trothwy lefel 1;

                        (iv)    cyflawni trothwy lefel 2;

                          (v)    cyflawni trothwy lefel 2 gan gynnwys cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg; a

                        (vi)    ymadael â'r ysgol heb ennill cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd.

(4) Mae paragraff (6) o reoliad 5 yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn fel y mae'n gymwys at ddibenion rheoliad 5.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “disgybl” mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw  person a oedd wedi ei gofrestru yn ddisgybl yn yr ysgol honno ar y dyddiad cyfrifo Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn honno.

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg  a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

29 Gorffennaf 2011


ATODLEN  1                  Rheoliad 1

                                                                                   

 

RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

 

 

 

Rheoliadau a ddirymwyd

Cyfeirnodau

Rhychwant y dirymu

Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 1999

 

O.S. 1999/1811

Y Rheoliadau cyfan

 

Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

 

O.S. 2004/2914

Rheoliad 2

Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005

 

O.S. 2005/1396

Rheoliad 2

Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) (Diwygio) 2006

 

O.S. 2006/125

Y Rheoliadau cyfan

                    ATODLEN  2          Rheoliad 8

GWYBODAETH AM GANLYNIADAU CYRHAEDDIAD DISGYBLION, TARGEDAU PERFFORMIAD, CYFRADDAU ABSENOLDEB A THARGEDAU AR GYFER ABSENOLDEBAU,  SYDD I'W CYHOEDDI MEWN ADRODDIADAU BLYNYDDOL

1. Pan gyhoeddir adroddiad blynyddol ysgol mewn perthynas â blwyddyn ysgol berthnasol ar ôl diwedd y flwyddyn honno, rhaid i adroddiad blynyddol yr ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol berthnasol gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)     canlyniadau cyrhaeddiad y disgyblion yn y flwyddyn ysgol berthnasol;

(b)     y targedau perfformiad a bennir ym mharagraff 2;

(c)     cyfradd absenoldeb yr ysgol yn y flwyddyn ysgol berthnasol;

(ch) y targedau absenoldeb a bennir ym mharagraff 2; a

(d)     datganiad sy'n nodi i ba raddau yr oedd—

                           (i)    canlyniadau cyrhaeddiad y disgyblion, a

                         (ii)    cyfradd absenoldeb yr ysgol,

yn y flwyddyn ysgol berthnasol yn cyrraedd y targedau terfynol cyfatebol a osodwyd ar gyfer yr un flwyddyn.

2. Y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) ac (ch) yw—

(a)     yr holl dargedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ysgol berthnasol;

(b)     yr holl dargedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn ysgol berthnasol; ac

(c)     yr holl dargedau adolygedig a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf ond un.

3.  Pan gyhoeddir adroddiad blynyddol ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol berthnasol yn ystod y flwyddyn honno, rhaid i adroddiad blynyddol yr ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol berthnasol gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)     canlyniadau cyrhaeddiad y disgyblion yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol berthnasol;

(b)     targedau perfformiad fel a bennir ym mharagraff 4;

(c)     cyfradd absenoldeb yr ysgol yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol berthnasol;

(ch) y targedau absenoldeb a bennir ym mharagraff 4; a

(d)     datganiad sy'n nodi i ba raddau yr oedd—

                           (i)    canlyniadau cyrhaeddiad y disgyblion; a

                         (ii)    cyfradd absenoldeb yr ysgol,

yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol berthnasol yn cyrraedd y targedau terfynol cyfatebol a osodwyd ar gyfer yr un flwyddyn.

4. Y targedau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (ch) yw—

(a)     yr holl dargedau terfynol a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol berthnasol; a

(b)      yr holl dargedau a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.

 

 



([1])           1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 o Ddeddf Addysg 1997 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

([2])           1998 p.31. Diwygiwyd is-adrannau (1), (3) a (4) o adran 63 gan adran 53(1), (3) a (4) a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, a mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 53(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd is-adran (7) o adran 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan baragraff 3(1) a (4) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). 

([3])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 19 a 54 o Ddeddf Addysg 1997 ac adrannau 63 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([4])           Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan adran 103(1)(a) o Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Diwygiwyd is-adrannau (3) a (4) o adran 30 gan adran 103(1)(b) o Ddeddf Addysg 2005 (p.18).

([5])           Diwygiwyd adran 103 gan baragraffau 11 a 15 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Y gorchmynion a wnaed o dan yr adran honno yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2915 (Cy.254)) a Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1394 (Cy.108)).

([6])           Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22).

([7])           1971 c.80.

([8])           1996 p.56. Diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2010/1158.

([9])           Diwygiwyd gan adran 21(1) a (6) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).

([10])         O.S. 2010/1954 (Cy.187).